26 Pan dorraf eich cynhaliaeth o fara, bydd deg gwraig yn medru pobi eich bara mewn un ffwrn, a byddant yn rhannu'r bara wrth bwysau; cewch fwyta, ond ni'ch digonir.
27 “ ‘Os byddwch er gwaethaf hyn heb wrando arnaf, ond yn parhau i'm gwrthwynebu,
28 yna fe'ch gwrthwynebaf chwi yn fy nig, a byddaf fi fy hunan yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau.
29 Byddwch yn bwyta cnawd eich meibion a'ch merched.
30 Byddaf yn dinistrio eich uchelfeydd, yn torri i lawr eich allorau arogldarthu, ac yn pentyrru eich cyrff ar weddillion eich eilunod, a byddaf yn eich ffieiddio.
31 Gwnaf eich dinasoedd yn adfeilion, dinistriaf eich cysegrleoedd, ac nid aroglaf eich arogl peraidd.
32 Byddaf yn gwneud y tir yn ddiffaith, a bydd eich gelynion sy'n byw yno wedi eu syfrdanu.