19 Bydd yn tynnu'r holl fraster oddi ar y bustach ac yn ei losgi ar yr allor;
20 bydd yn gwneud i'r bustach hwn yn union fel y gwnaeth i fustach yr aberth dros bechod. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drostynt, ac fe faddeuir iddynt.
21 Yna bydd yn mynd â'r bustach y tu allan i'r gwersyll, ac yn ei losgi fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma fydd yr aberth dros bechod y gynulleidfa.
22 “ ‘Os arweinydd fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD ei Dduw, yna bydd yn euog.
23 Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod â rhodd o fwch gafr ifanc di-nam.
24 Y mae i osod ei law ar ben y bwch a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; dyma fydd yr aberth dros bechod.
25 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed allor y poethoffrwm.