31 Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, ac fe faddeuir iddo.
32 “ ‘Os bydd rhywun yn dod ag oen yn aberth dros bechod, dylai ddod ag oen benyw ddi-nam.
33 Y mae i osod ei law ar ben yr aberth dros bechod a'i ladd yn aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.
34 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed yr allor.
35 Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar oen yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar ben yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth, ac fe faddeuir iddo.