6 yna bydd yr offeiriad yn trochi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith gerbron yr ARGLWYDD, o flaen llen y cysegr.
7 Bydd yr offeiriad hefyd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth peraidd, sydd gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod; a bydd yn tywallt gweddill gwaed y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
8 Y mae i dynnu'r holl fraster oddi ar fustach yr aberth dros bechod, sef y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
9 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau,
10 yn union fel y tynnir ef ymaith oddi ar fustach yr heddoffrwm; a bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar allor y poethoffrwm.
11 Ond am groen y bustach a'i holl gnawd, ei ben, ei goesau, ei ymysgaroedd a'i weddillion,
12 sef y cyfan o'r bustach, bydd yn mynd â hwy y tu allan i'r gwersyll i le dihalog, lle gellir tywallt y lludw, ac yn eu llosgi ar dân coed, lle tywelltir y lludw.