2 Neu os bydd unrhyw un yn cyffwrdd ag unrhyw beth aflan, boed yn gorff bwystfil aflan, neu anifail aflan, neu ymlusgiad aflan, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, y mae'n aflan ac yn euog.
3 Neu os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw aflendid dynol, sef unrhyw beth a fydd yn ei wneud yn aflan, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, pan fydd yn sylweddoli hynny bydd yn euog.
4 Neu os bydd rhywun yn tyngu llw yn ddifeddwl, boed i wneud drwg neu dda, mewn unrhyw beth y byddai rhywun yn tyngu llw difeddwl ynglŷn ag ef, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, pan fydd yn sylweddoli hynny bydd yn euog o un o'r pethau hyn.
5 Pan fydd rhywun yn euog o un o'r pethau hyn, dylai gyffesu ym mha fodd y pechodd,
6 ac yn iawn am y pechod a wnaeth y mae i ddod ag aberth dros bechod i'r ARGLWYDD, sef oen benyw neu afr o'r praidd; a bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am ei bechod.
7 “ ‘Os na all fforddio oen, dylai ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen i'r ARGLWYDD yn iawn am ei bechod, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm.
8 Y mae i ddod â hwy at yr offeiriad, a bydd yntau yn cyflwyno un yn aberth dros bechod, ac yn torri'r pen oddi wrth y corff heb eu gwahanu'n llwyr.