7 “ ‘Os na all fforddio oen, dylai ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen i'r ARGLWYDD yn iawn am ei bechod, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm.
8 Y mae i ddod â hwy at yr offeiriad, a bydd yntau yn cyflwyno un yn aberth dros bechod, ac yn torri'r pen oddi wrth y corff heb eu gwahanu'n llwyr.
9 Yna bydd yn taenellu peth o waed yr aberth dros bechod ar ochr yr allor, ac yn gwasgu allan y gweddill wrth droed yr allor. Dyma fydd yr aberth dros bechod.
10 Bydd yn cyflwyno'r ail yn boethoffrwm yn y dull arferol. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth, ac fe faddeuir iddo.
11 “ ‘Ond os na all fforddio dwy durtur neu ddau gyw colomen, dylai ddod â rhodd o ddegfed ran o effa o beilliaid yn aberth dros ei bechod; nid yw i roi olew na thus arno, am mai offrwm dros bechod ydyw.
12 Y mae i ddod ag ef at yr offeiriad, a bydd yntau'n cymryd dyrnaid ohono yn gyfran goffa, ac yn ei losgi ar yr allor ar ben yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr aberth dros bechod.
13 Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth ynglŷn ag un o'r pethau hyn, ac fe faddeuir iddo. Bydd y gweddill yn eiddo i'r offeiriad, fel gyda'r bwydoffrwm.’ ”