1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2 “Os bydd unrhyw un yn pechu ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD oherwydd iddo dwyllo ei gymydog ynglŷn â rhywbeth a ymddiriedwyd iddo, neu a adawyd yn ei ofal, neu a ladratawyd, neu oherwydd iddo dreisio ei gymydog,
3 neu oherwydd iddo ddarganfod peth a gollwyd, a thwyllo a thyngu'n dwyllodrus ynglŷn ag ef—yn wir, unrhyw un o'r pechodau a wneir gan bobl—
4 pan fydd wedi pechu ac felly'n euog, dylai ddychwelyd yr hyn a ladrataodd neu a gymerodd trwy drais, neu'r hyn a ymddiriedwyd iddo, neu'r peth coll a ddarganfu,
5 neu unrhyw beth y tyngodd yn dwyllodrus ynglŷn ag ef. Y mae i dalu'n llawn amdano, ac i ychwanegu pumed ran ato a'i roi i'r perchennog y diwrnod y bydd yn gwneud offrwm dros ei gamwedd.
6 Y mae i ddod â hwrdd o'r praidd at yr ARGLWYDD yn offrwm dros gamwedd, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol.
7 Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto gerbron yr ARGLWYDD, ac fe faddeuir iddo am unrhyw un o'r pethau a wnaeth i fod yn euog.”