10 Yna bydd yr offeiriad yn gwisgo'i wisgoedd lliain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff, a bydd yn codi lludw'r poethoffrwm, a yswyd gan dân ar yr allor, ac yn ei roi wrth ymyl yr allor.
11 Bydd yr offeiriad wedyn yn tynnu ei ddillad ac yn gwisgo dillad eraill, ac yn mynd â'r lludw y tu allan i'r gwersyll i le dihalog.
12 Rhaid cadw'r tân i losgi ar yr allor; nid yw i ddiffodd. Y mae'r offeiriad i roi coed arni bob bore, gosod y poethoffrwm arni a llosgi braster yr heddoffrwm.
13 Rhaid cadw'r tân i losgi'n barhaol ar yr allor; nid yw i ddiffodd.
14 “ ‘Dyma ddeddf y bwydoffrwm: Y mae meibion Aaron i ddod ag ef o flaen yr allor gerbron yr ARGLWYDD.
15 Bydd offeiriad yn cymryd ohono ddyrnaid o beilliaid, ynghyd â'r olew a'r holl thus a fydd dros y bwydoffrwm, ac yn ei losgi'n gyfran goffa ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
16 Bydd Aaron a'i feibion yn bwyta'r gweddill ohono, ond rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sanctaidd; y maent i'w fwyta yng nghyntedd pabell y cyfarfod.