17 Ni ddylid ei bobi â lefain; fe'i rhoddais iddynt yn gyfran o'u hoffrymau i mi trwy dân. Fel yr aberth dros bechod a'r offrwm dros gamwedd y mae'n gwbl sanctaidd.
18 Caiff pob un o feibion Aaron ei fwyta, fel y deddfwyd am byth dros eich cenedlaethau ynglŷn â'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; fe sancteiddir pwy bynnag a'u cyffwrdd.’ ”
19 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
20 “Dyma'r offrwm y mae Aaron a'i feibion i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD ar y dydd yr eneinir ef: degfed ran o effa o beilliaid yn fwydoffrwm rheolaidd, hanner ohono yn y bore a hanner gyda'r nos.
21 Bydd wedi ei baratoi ag olew ar radell; dewch ag ef wedi ei gymysgu a'i gyflwyno'n fwydoffrwm wedi ei dorri'n ddarnau, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
22 Y mae i'w baratoi gan y mab sydd i ddilyn Aaron fel offeiriad eneiniog; llosgir ef yn llwyr i'r ARGLWYDD fel y deddfwyd am byth.
23 Y mae pob bwydoffrwm gan offeiriad i'w losgi'n llwyr; ni ddylid ei fwyta.”