20 “Dyma'r offrwm y mae Aaron a'i feibion i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD ar y dydd yr eneinir ef: degfed ran o effa o beilliaid yn fwydoffrwm rheolaidd, hanner ohono yn y bore a hanner gyda'r nos.
21 Bydd wedi ei baratoi ag olew ar radell; dewch ag ef wedi ei gymysgu a'i gyflwyno'n fwydoffrwm wedi ei dorri'n ddarnau, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
22 Y mae i'w baratoi gan y mab sydd i ddilyn Aaron fel offeiriad eneiniog; llosgir ef yn llwyr i'r ARGLWYDD fel y deddfwyd am byth.
23 Y mae pob bwydoffrwm gan offeiriad i'w losgi'n llwyr; ni ddylid ei fwyta.”
24 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron a'i feibion,
25 ‘Dyma ddeddf yr aberth dros bechod: Y mae'r aberth dros bechod i'w ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; bydd yn gwbl sanctaidd.
26 Yr offeiriad a fydd yn ei gyflwyno'n aberth dros bechod fydd yn ei fwyta, a hynny mewn lle sanctaidd yng nghyntedd pabell y cyfarfod.