5 neu unrhyw beth y tyngodd yn dwyllodrus ynglŷn ag ef. Y mae i dalu'n llawn amdano, ac i ychwanegu pumed ran ato a'i roi i'r perchennog y diwrnod y bydd yn gwneud offrwm dros ei gamwedd.
6 Y mae i ddod â hwrdd o'r praidd at yr ARGLWYDD yn offrwm dros gamwedd, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol.
7 Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto gerbron yr ARGLWYDD, ac fe faddeuir iddo am unrhyw un o'r pethau a wnaeth i fod yn euog.”
8 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
9 “Gorchymyn i Aaron a'i feibion a dweud, ‘Dyma ddeddf y poethoffrwm: Y mae'r poethoffrwm i'w adael ar aelwyd yr allor trwy'r nos hyd y bore, a'r tân i'w gadw i losgi ar yr allor.
10 Yna bydd yr offeiriad yn gwisgo'i wisgoedd lliain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff, a bydd yn codi lludw'r poethoffrwm, a yswyd gan dân ar yr allor, ac yn ei roi wrth ymyl yr allor.
11 Bydd yr offeiriad wedyn yn tynnu ei ddillad ac yn gwisgo dillad eraill, ac yn mynd â'r lludw y tu allan i'r gwersyll i le dihalog.