10 bydd pob bwydoffrwm, boed wedi ei gymysgu ag olew neu'n sych, yn eiddo i bob un o feibion Aaron fel ei gilydd.
11 “ ‘Dyma ddeddf yr heddoffrwm a gyflwynir i'r ARGLWYDD.
12 Os cyflwynir ef yn ddiolchgarwch, dylid cyflwyno gyda'r offrwm diolch deisennau heb furum wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, a theisennau o beilliaid wedi eu tylino a'u cymysgu ag olew.
13 Gyda'r heddoffrwm o ddiolchgarwch dylid cyflwyno hefyd offrwm o deisennau o fara lefeinllyd.
14 Deuir ag un o bob math yn offrwm i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD; bydd yn eiddo i'r offeiriad sy'n lluchio gwaed yr heddoffrwm.
15 Rhaid bwyta cig yr heddoffrwm o ddiolchgarwch ar y dydd y cyflwynir ef; ni ddylid gadael dim ohono hyd y bore.
16 “ ‘Os offrwm adduned neu offrwm gwirfodd fydd yr aberth, dylid ei fwyta ar y dydd y cyflwynir ef, ond gellir bwyta drannoeth unrhyw beth a fydd yn weddill.