14 Deuir ag un o bob math yn offrwm i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD; bydd yn eiddo i'r offeiriad sy'n lluchio gwaed yr heddoffrwm.
15 Rhaid bwyta cig yr heddoffrwm o ddiolchgarwch ar y dydd y cyflwynir ef; ni ddylid gadael dim ohono hyd y bore.
16 “ ‘Os offrwm adduned neu offrwm gwirfodd fydd yr aberth, dylid ei fwyta ar y dydd y cyflwynir ef, ond gellir bwyta drannoeth unrhyw beth a fydd yn weddill.
17 Rhaid llosgi yn y tân unrhyw gig o'r offrwm a fydd yn weddill ar y trydydd dydd.
18 Os bwyteir rhywfaint o gig yr heddoffrwm ar y trydydd dydd, ni fydd yr un sy'n ei gyflwyno yn dderbyniol, ac ni chyfrifir yr offrwm iddo am ei fod yn amhur; a bydd y sawl sy'n ei fwyta yn euog oherwydd hynny.
19 “ ‘Ni ddylid bwyta cig a fydd wedi cyffwrdd ag unrhyw beth aflan; rhaid ei losgi yn y tân. Ond am unrhyw gig arall, caiff unrhyw un glân ei fwyta.
20 Os bydd unrhyw un aflan yn bwyta o gig yr heddoffrwm sy'n eiddo i'r ARGLWYDD, rhaid torri hwnnw ymaith o blith ei bobl.