22 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
23 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Peidiwch â bwyta dim o fraster gwartheg, defaid na geifr.
24 Gallwch ddefnyddio at unrhyw ddiben fraster anifail wedi marw neu wedi ei larpio, ond ni chewch ei fwyta.
25 Oherwydd torrir ymaith o blith ei bobl unrhyw un sy'n bwyta braster oddi ar anifail y gellir cyflwyno ohono offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
26 Lle bynnag y byddwch yn byw, nid ydych i fwyta dim o waed aderyn nac anifail.
27 Y mae pob un sy'n bwyta o'r gwaed i'w dorri ymaith o blith ei bobl.’ ”
28 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,