26 Lle bynnag y byddwch yn byw, nid ydych i fwyta dim o waed aderyn nac anifail.
27 Y mae pob un sy'n bwyta o'r gwaed i'w dorri ymaith o blith ei bobl.’ ”
28 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
29 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Y mae unrhyw un sy'n dod â heddoffrwm i'r ARGLWYDD i gyflwyno i'r ARGLWYDD rodd o'i heddoffrwm.
30 Ei ddwylo ei hun sydd i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD; y mae i ddod â'r braster yn ogystal â'r frest, ac i chwifio'r frest yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD.
31 Bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor, ond bydd y frest yn eiddo i Aaron a'i feibion.
32 Rhoddwch glun dde eich heddoffrwm yn gyfraniad i'r offeiriad.