31 Bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor, ond bydd y frest yn eiddo i Aaron a'i feibion.
32 Rhoddwch glun dde eich heddoffrwm yn gyfraniad i'r offeiriad.
33 Y sawl o feibion Aaron a fydd yn cyflwyno gwaed yr heddoffrwm a'r braster fydd yn cael y glun dde yn gyfran.
34 Oherwydd cymerais frest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad o heddoffrwm pobl Israel, a'u rhoi i Aaron yr offeiriad a'i feibion yn gyfran reolaidd gan blant Israel.
35 “ ‘Dyma'r gyfran o'r offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD a neilltuwyd i Aaron a'i feibion y diwrnod y cyflwynwyd hwy yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.
36 Y diwrnod y cysegrwyd hwy gorchmynnodd yr ARGLWYDD i bobl Israel roi iddynt gyfran reolaidd dros eu cenedlaethau.
37 “ ‘Dyma felly ddeddf y poethoffrwm, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod, yr offrwm dros gamwedd, offrwm yr ordeiniad a'r heddoffrwm,