6 Caiff pob gwryw o blith yr offeiriaid ei fwyta, ond rhaid gwneud hynny mewn lle sanctaidd; y mae'n gwbl sanctaidd.
7 “ ‘Yr un yw deddf yr aberth dros bechod â deddf yr offrwm dros gamwedd: y mae'r aberth yn perthyn i'r offeiriad sy'n gwneud cymod trwyddo.
8 Y mae'r offeiriad sy'n cyflwyno poethoffrwm dros unrhyw un i gadw iddo'i hun groen y poethoffrwm a gyflwynir.
9 Y mae unrhyw fwydoffrwm wedi ei grasu mewn ffwrn, neu wedi ei baratoi ar radell neu mewn padell, yn eiddo i'r offeiriad sy'n ei gyflwyno;
10 bydd pob bwydoffrwm, boed wedi ei gymysgu ag olew neu'n sych, yn eiddo i bob un o feibion Aaron fel ei gilydd.
11 “ ‘Dyma ddeddf yr heddoffrwm a gyflwynir i'r ARGLWYDD.
12 Os cyflwynir ef yn ddiolchgarwch, dylid cyflwyno gyda'r offrwm diolch deisennau heb furum wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, a theisennau o beilliaid wedi eu tylino a'u cymysgu ag olew.