17 Daeth hefyd â'r bwydoffrwm a chymryd dyrnaid ohono, a'i losgi ar yr allor ynghyd â'r poethoffrymau boreol.
18 Lladdodd hefyd yr ych a'r hwrdd yn heddoffrwm dros y bobl; daeth ei feibion â'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.
19 Ond am fraster yr ych a'r hwrdd, y gynffon fras, yr haen o fraster, yr arennau, a gorchudd yr iau,
20 gosodwyd hwy ar y frest, ac yna llosgodd Aaron y braster ar yr allor.
21 Chwifiodd y brestiau a'r glun dde yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd Moses.
22 Yna cododd Aaron ei ddwylo i gyfeiriad y bobl a'u bendithio; ac ar ôl cyflwyno'r aberth dros bechod, y poethoffrwm a'r heddoffrwm, daeth i lawr o'r allor.
23 Yna aeth Moses ac Aaron i babell y cyfarfod; a phan ddaethant allan a bendithio'r bobl, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl bobl.