1 Fel y mae pryfed meirw yn gwneud i ennaint y peraroglydd ddrewi,felly y mae ychydig ffolineb yn tynnu oddi wrth ddoethineb ac anrhydedd.
2 Y mae calon y doeth yn ei arwain i'r dde,ond calon y ffôl yn ei droi i'r chwith.
3 Pan yw'r ffôl yn cerdded ar y ffordd,nid oes synnwyr ganddo,ac y mae'n dweud wrth bawb ei fod yn ynfyd.
4 Os enynnir llid y llywodraethwr yn dy erbyn,paid ag ymddiswyddo;y mae pwyll yn tymheru troseddau mawr.
5 Gwelais beth drwg dan yr haul, sef camgymeriad yn deillio oddi wrth y llywodraethwr:
6 ffŵl wedi ei osod mewn safleoedd pwysig, a'r cyfoethog wedi eu gosod yn israddol.
7 Gwelais weision ar geffylau, a thywysogion yn cerdded fel gweision.
8 Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo,a'r sawl sy'n chwalu clawdd yn cael ei frathu gan neidr.
9 Y mae'r un sy'n symud cerrig yn cael niwed ganddynt,a'r sawl sy'n hollti coed yn cael dolur ganddynt.
10 Os yw bwyell yn ddi-fin, a heb ei hogi,yna rhaid defnyddio mwy o nerth;ond y mae medr yn dod â llwyddiant.
11 Os na swynir neidr cyn iddi frathu,nid oes mantais o gael swynwr.
12 Y mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr,ond geiriau'r ffôl yn ei ddinistrio.
13 Y mae ei eiriau'n dechrau yn ffôl,ac yn diweddu mewn ynfydrwydd llwyr,
14 a'r ffŵl yn amlhau geiriau.Nid oes neb yn gwybod beth a ddaw,a phwy a all ddweud wrth neb beth fydd ar ei ôl?
15 Y mae llafur y ffôl yn ei wneud yn lluddedig,ac ni ŵyr sut i fynd i'r ddinas.
16 Gwae di, wlad, pan fydd gwas yn frenin arnat,a'th dywysogion yn gwledda yn y bore!
17 Gwyn dy fyd, wlad, pan fydd dy frenin yn fab pendefig,a'th dywysogion yn gwledda ar yr amser priodol,a hynny i gryfhau ac nid i feddwi!
18 Y mae'r trawstiau'n dadfeilio o ganlyniad i ddiogi,a'r tŷ'n gollwng o achos llaesu dwylo.
19 I gael llawenydd y paratoir gwledd,ac y mae gwin yn llonni bywyd,ac arian yn ateb i bopeth.
20 Paid â melltithio'r brenin yn dy feddwl,na'r cyfoethog yn dy ystafell wely,oherwydd gall adar yr awyr gario dy lais,a pherchen adain fynegi'r hyn a ddywedi.