1 Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i dŷ Dduw. Y mae'n well nesáu i wrando nag offrymu aberth ffyliaid, oherwydd nid ydynt hwy'n gwybod eu bod yn gwneud drwg.
2 Paid â bod yn fyrbwyll â'th enau na bod ar frys o flaen Duw. Y mae Duw yn y nefoedd, ac yr wyt ti ar y ddaear, felly bydd yn fyr dy eiriau.
3 Yn wir, fe ddaw breuddwyd pan yw gorchwylion yn cynyddu, a siarad ffôl pan bentyrrir geiriau.
4 Pan wnei adduned i Dduw, paid ag oedi ei chyflawni, oherwydd nid yw ef yn ymhyfrydu mewn ffyliaid. Cyflawna di'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
5 Y mae'n well iti beidio ag addunedu na pheidio â chyflawni'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
6 Paid â gadael i'th enau dy arwain i bechu, a phaid â dweud o flaen y cennad, “Camgymeriad oedd hyn.” Pam y dylai Duw gasáu dy ymadrodd, a difa gwaith dy ddwylo?
7 Y mae llawer o freuddwydion ac amlder geiriau yn wagedd; ond ofna di Dduw.
8 Os gweli'r tlawd yn cael ei orthrymu, a bod rhai yn atal barn a chyfiawnder mewn talaith, paid â synnu at yr hyn sy'n digwydd; oherwydd y mae un uwch yn gwylio pob swyddog, a rhai uwch eto drostynt ill dau.
9 Y mae cynnyrch y tir i bawb; y mae'r brenin yn cael y tir sydd wedi ei drin.
10 Ni ddigonir yr ariangar ag arian, na'r un sy'n caru cyfoeth ag elw. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
11 Pan yw cyfoeth yn cynyddu, y mae'r rhai sy'n byw arno yn amlhau; a pha fudd sydd i'w berchennog ond edrych arno?
12 Y mae cwsg y gweithiwr yn felys, boed wedi bwyta ychydig neu lawer; ond y mae digonedd y cyfoethog yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.
13 Gwelais ddrwg poenus dan yr haul: cyfoeth wedi ei gadw yn peri niwed i'w berchennog,
14 a'r cyfoeth yn diflannu trwy anffawd flin, ac yntau, pan gaiff fab, heb ddim i'w roi iddo.
15 Fel y daeth allan o groth ei fam, bydd yn dychwelyd yno yn noeth, yn union fel y daeth; ac ni chaiff ddim am ei lafur i'w gymryd gydag ef.
16 Y mae hyn hefyd yn ddrwg poenus: yn union fel y daeth, yr â pob un ymaith; a pha elw sydd iddo, ac yntau wedi llafurio am wynt?
17 Y mae wedi treulio'i ddyddiau mewn tywyllwch a gofid, mewn dicter mawr a gwaeledd a llid.
18 Dyma'r hyn a welais: y mae'n dda a gweddus i ddyn fwyta ac yfed, a chael mwynhad o'r holl lafur a gyflawna dan yr haul yn ystod dyddiau ei fywyd, a roddwyd iddo gan Dduw; dyna yw ei dynged.
19 Yn wir y mae pob un y rhoddodd Duw iddo gyfoeth a meddiannau a'r gallu i'w mwynhau, i dderbyn ei dynged, a bod yn llawen yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.
20 Yn wir ni fydd yn meddwl yn ormodol am ddyddiau ei fywyd, gan fod Duw yn ei gadw'n brysur â llawenydd yn ei galon.