Y Pregethwr 12 BCN

1 Cofia dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn i'r dyddiau blin ddod, ac i'r blynyddoedd nesáu pan fyddi'n dweud, “Ni chaf bleser ynddynt.”

2 Cofia amdano cyn tywyllu'r haul a'r goleuni, y lloer a'r sêr, a chyn i'r cymylau ddychwelyd ar ôl y glaw.

3 Dyma'r dydd pan fydd ceidwaid y tŷ yn crynu, a dynion cryf yn gwargrymu; pan fydd y merched sy'n malu yn peidio â gweithio am eu bod yn ychydig, a phan fydd golwg y rhai sy'n edrych trwy'r ffenestri wedi pylu;

4 pan fydd y drysau i'r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn distewi; pan fydd rhywun yn cael ei ddychryn gan gân aderyn, am fod yr holl adar a ganai wedi distewi;

5 pan fydd pobl yn ofni llecyn uchel a pheryglon ar y ffordd; pan fydd y pren almon yn gwynnu, a cheiliog rhedyn yn ymlusgo'n feichus, a'i chwant heb ei gyffroi; pan fydd rhywun ar fynd i'w gartref bythol, a'r galarwyr yn crynhoi yn y stryd.

6 Cofia amdano cyn torri'r llinyn arian a darnio'r llestr aur, cyn malurio'r piser wrth y ffynnon a thorri'r olwyn wrth y pydew,

7 cyn i'r llwch fynd yn ôl i'r ddaear lle bu ar y cychwyn, a chyn i'r ysbryd ddychwelyd at y Duw a'i rhoes.

8 “Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr, “gwagedd yw'r cyfan.”

Crynodeb

9 Yn ogystal â'i fod ef ei hun yn ddoeth, yr oedd y Pregethwr yn dysgu deall i'r bobl, yn pwyso a chwilio, ac yn gosod mewn trefn lawer o ddiarhebion.

10 Ceisiodd y Pregethwr gael geiriau dymunol ac ysgrifennu geiriau cywir mewn trefn.

11 Y mae geiriau'r doethion fel symbylau, a'r casgliad o'u geiriau fel hoelion wedi eu gosod yn eu lle; y maent wedi eu rhoi gan un bugail.

12 Cymer rybudd, fy mab, rhag ychwanegu atynt. Y mae cyfansoddi llyfrau yn waith diddiwedd, ac y mae astudio dyfal yn flinder i'r corff.

13 Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un.

14 Yn wir, y mae Duw yn barnu pob gweithred, hyd yn oed yr un guddiedig, boed dda neu ddrwg.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12