Y Pregethwr 7 BCN

Myfyrdodau

1 Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr,a dydd marw yn well na dydd geni.

2 Y mae'n well mynd i dŷ galarna mynd i dŷ gwledd;oherwydd marw yw tynged pawb,a dylai'r byw ystyried hyn.

3 Y mae tristwch yn well na chwerthin;er i'r wyneb fod yn drist, gall y galon fod yn llawen.

4 Y mae calon y doethion yn nhŷ galar,ond calon y ffyliaid yn nhŷ pleser.

5 Y mae'n well gwrando ar gerydd y doethna gwrando ar gân ffyliaid.

6 Oherwydd y mae chwerthin y ffŵlfel clindarddach drain o dan grochan.Y mae hyn hefyd yn wagedd.

7 Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd,ac y mae cildwrn yn llygru'r meddwl.

8 Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau,ac amynedd yn well nag ymffrost.

9 Paid â rhuthro i ddangos dig,oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.

10 Paid â dweud, “Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?”Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.

11 Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth,ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul.

12 Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian;mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.

13 Ystyria'r hyn a wnaeth Duw;pwy all unioni'r hyn a wyrodd ef?

14 Bydd lawen pan yw'n dda arnat,ond yn amser adfyd ystyria hyn:Duw a wnaeth y naill beth a'r llall,fel na all neb ganfod beth a fydd yn dilyn.

15 Yn ystod fy oes o wagedd gwelais y cyfan: un cyfiawn yn darfod yn ei gyfiawnder, ac un drygionus yn cael oes faith yn ei ddrygioni.

16 Paid â bod yn rhy gyfiawn, a phaid â bod yn or-ddoeth; pam y difethi dy hun?

17 Paid â bod yn rhy ddrwg, a phaid â bod yn ffŵl; pam y byddi farw cyn dy amser?

18 Y mae'n werth iti ddal dy afael ar y naill beth, a pheidio â gollwng y llall o'th law. Yn wir, y mae'r un sy'n ofni Duw yn eu dilyn ill dau.

19 Y mae doethineb yn rhoi mwy o gryfder i'r doeth nag sydd gan ddeg llywodraethwr mewn dinas.

20 Yn wir, nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni, heb bechu.

21 Paid â chymryd sylw o bob gair a ddywedir, rhag ofn iti glywed dy was yn dy felltithio;

22 yn wir fe wyddost dy fod ti dy hun wedi melltithio eraill lawer gwaith.

23 Yr wyf wedi rhoi prawf ar hyn i gyd trwy ddoethineb. Dywedais, “Yr wyf am fod yn ddoeth,” ond yr oedd yn bell oddi wrthyf.

24 Y mae'r hyn sy'n digwydd yn bell ac yn ddwfn iawn; pwy a all ei ganfod?

25 Fe euthum ati i ddeall â'm meddwl, i chwilio a cheisio doethineb a rheswm, a deall drygioni ffolineb, a ffolineb ynfydrwydd.

26 A chanfûm rywbeth chwerwach na marwolaeth: gwraig sydd â'i chalon yn faglau a rhwydau, a'i dwylo'n rhwymau. Y mae'r un sy'n dda yng ngolwg Duw yn dianc oddi wrthi, ond fe ddelir y pechadur ganddi.

27 “Edrych, dyma'r peth a ganfûm,” medd y Pregethwr, “trwy osod y naill beth wrth y llall i chwilio am ystyr,

28 oherwydd yr oeddwn yn chwilio amdano'n ddyfal ond yn methu ei gael; canfûm un dyn ymhlith mil, ond ni chefais yr un wraig ymhlith y cyfan ohonynt.

29 Edrych, hyn yn unig a ganfûm: bod Duw wedi creu pobl yn uniawn; ond y maent hwy wedi ceisio llawer o gynlluniau.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12