Y Pregethwr 8 BCN

1 Pwy sydd fel y doeth?Pwy sy'n deall ystyr pethau?Y mae doethineb yn gwneud i wyneb rhywun ddisgleirio,ac yn newid caledwch ei drem.

Ufuddhau i'r Brenin

2 Cadw orchymyn y brenin, o achos y llw i Dduw.

3 Paid â rhuthro o'i ŵydd, na dyfalbarhau gyda'r hyn sydd ddrwg, oherwydd y mae ef yn gwneud yr hyn a ddymuna.

4 Y mae awdurdod yng ngair y brenin, a phwy a all ofyn iddo, “Beth wyt yn ei wneud?”

5 Ni ddaw niwed i'r un sy'n cadw gorchymyn, a gŵyr y doeth yr amser a'r ffordd i weithredu.

6 Yn wir, y mae amser a ffordd i bob gorchwyl, er bod trueni pobl yn drwm arnynt.

7 Nid oes neb sy'n gwybod beth a fydd; a phwy a all fynegi beth a ddigwydd?

8 Ni all neb reoli'r gwynt, ac nid oes gan neb awdurdod dros ddydd marwolaeth. Nid oes bwrw arfau mewn rhyfel, ac ni all drygioni waredu ei feistr.

9 Gwelais hyn i gyd wrth imi sylwi ar yr hyn a ddigwydd dan yr haul, pan fydd rhywun yn arglwyddiaethu ar ei gymrodyr i beri niwed iddynt.

Drygioni a Chyfiawnder

10 Yna gwelais bobl ddrwg yn cael eu claddu. Arferent fynd a dod o'r lle sanctaidd, a chael eu canmol yn y ddinas lle'r oeddent wedi gwneud y pethau hyn. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

11 Gan na roddir dedfryd fuan ar weithred ddrwg, y mae calonnau pobl yn ymroi'n llwyr i ddrygioni.

12 Gall pechadur wneud drwg ganwaith a byw'n hir; eto gwn y bydd daioni i'r rhai sy'n ofni Duw ac yn ei barchu.

13 Ni fydd daioni i'r drygionus, ac nid estynnir ei ddyddiau fel cysgod, am nad yw'n ofni Duw.

14 Dyma'r gwagedd a wneir ar y ddaear: pobl gyfiawn yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n anghyfiawn, a phobl ddrwg yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n gyfiawn. Dywedais fod hyn hefyd yn wagedd.

15 Yr wyf yn canmol llawenydd, gan mai'r unig beth da i bawb dan yr haul yw bwyta ac yfed a bod yn llawen; oherwydd fe erys hyn gyda hwy pan y maent yn llafurio yn ystod y dyddiau a rydd Duw iddynt dan yr haul.

16 Pan roddais fy mryd ar ddeall doethineb a sylwi ar yr hyn a ddigwydd ar y ddaear, a gweld pobl heb gael cwsg i'w llygaid na dydd na nos,

17 yna gwelais y cyfan a wnaeth Duw. Eto nid oes neb yn gallu dirnad yr hyn a wneir dan yr haul. Er iddo ymdrechu i chwilio, nid yw'n dirnad; ac er i'r doeth feddwl ei fod yn deall, nid yw yntau'n dirnad.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12