Y Pregethwr 3 BCN

Tymor i Bob Peth

1 Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:

2 amser i eni, ac amser i farw,amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd;

3 amser i ladd, ac amser i iacháu,amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu;

4 amser i wylo, ac amser i chwerthin,amser i alaru, ac amser i ddawnsio;

5 amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu,amser i gofleidio, ac amser i ymatal;

6 amser i geisio, ac amser i golli,amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;

7 amser i rwygo, ac amser i drwsio,amser i dewi, ac amser i siarad;

8 amser i garu, ac amser i gasáu,amser i ryfel, ac amser i heddwch.

9 Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio?

10 Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni.

11 Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd.

12 Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da,

13 a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.

14 Yr wyf yn gwybod hefyd fod y cyfan a wna Duw yn aros byth; ni ellir ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho. Gweithreda Duw fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.

15 Y mae'r hyn sy'n bod wedi bod eisoes, a'r hyn sydd i ddod hefyd wedi bod eisoes, ac y mae Duw yn chwilio am yr hyn a ddiflannodd.

Anghyfiawnder

16 Hefyd gwelais dan yr haul fod drygioni wedi cymryd lle barn a chyfiawnder.

17 Ond dywedais wrthyf fy hun, “Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith.”

18 Dywedais wrthyf fy hun, “Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid.”

19 Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd.

20 Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd.

21 Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear?

22 Yna gwelais nad oes dim yn well i rywun na'i fwynhau ei hun yn ei waith, oherwydd dyna yw ei dynged. Pwy all wneud iddo weld beth fydd ar ei ôl?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12