1 Yr oedd rhyw ŵr yng Nghesarea o'r enw Cornelius, canwriad o'r fintai Italaidd, fel y gelwid hi;
2 gŵr defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a'i holl deulu. Byddai'n rhoi elusennau lawer i'r bobl Iddewig, ac yn gweddïo ar Dduw yn gyson.
3 Tua thri o'r gloch y prynhawn, gwelodd yn eglur mewn gweledigaeth angel Duw yn dod i mewn ato ac yn dweud wrtho, “Cornelius.”
4 Syllodd yntau arno a brawychodd, ac meddai, “Beth sydd, f'arglwydd?” Dywedodd yr angel wrtho, “Y mae dy weddïau a'th elusennau wedi esgyn yn offrwm coffa gerbron Duw.
5 Ac yn awr anfon ddynion i Jopa i gyrchu dyn o'r enw Simon, a gyfenwir Pedr.
6 Y mae hwn yn lletya gyda rhyw farcer o'r enw Simon, sydd â'i dŷ wrth y môr.”
7 Wedi i'r angel oedd yn llefaru wrtho ymadael, galwodd ddau o'r gweision tŷ a milwr defosiynol, un o'i weision agos,