Actau 22 BCN

1 “Frodyr a thadau, gwrandewch ar f'amddiffyniad ger eich bron yn awr.”

2 Pan glywsant mai yn iaith yr Iddewon yr oedd yn eu hannerch, rhoesant wrandawiad tawelach iddo. Ac meddai,

3 “Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy nghodi yn y ddinas hon. Cefais fy addysg wrth draed Gamaliel yn ôl llythyren Cyfraith ein hynafiaid, ac yr wyf yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw.

4 Erlidiais y Ffordd hon hyd at ladd, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wŷr a gwragedd,

5 fel y mae'r archoffeiriad a holl Gyngor yr henuriaid yn dystion i mi; oddi wrthynt hwy yn wir y derbyniais lythyrau at ein cyd-Iddewon yn Namascus, a chychwyn ar daith i ddod â'r rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerwsalem i'w cosbi.

Paul yn Sôn am ei Dröedigaeth

6 “Ond pan oeddwn ar fy nhaith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn tua chanol dydd fe fflachiodd goleuni mawr o'r nef o'm hamgylch.

7 Syrthiais ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?’

8 Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu o Nasareth wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’

9 Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf.

10 A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.’

11 Gan nad oeddwn yn gweld dim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe'm harweiniwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus.

12 “Daeth rhyw Ananias ataf, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, a gair da iddo gan yr holl Iddewon oedd yn byw yno.

13 Safodd hwn yn f'ymyl a dywedodd wrthyf, ‘Y brawd Saul, derbyn dy olwg yn ôl.’ Edrychais innau arno a derbyn fy ngolwg yn ôl y munud hwnnw.

14 A dywedodd yntau: ‘Y mae Duw ein tadau wedi dy benodi di i wybod ei ewyllys, ac i weld yr Un Cyfiawn a chlywed llais o'i enau ef;

15 oherwydd fe fyddi di'n dyst iddo, wrth yr holl ddynolryw, o'r hyn yr wyt wedi ei weld a'i glywed.

16 Ac yn awr, pam yr wyt yn oedi? Tyrd i gael dy fedyddio a chael golchi ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw ef.’

Anfon Paul at y Cenhedloedd

17 “Wedi imi ddychwelyd i Jerwsalem, dyma a ddigwyddodd pan oeddwn yn gweddïo yn y deml: euthum i lesmair,

18 a'i weld ef yn dweud wrthyf, ‘Brysia ar unwaith allan o Jerwsalem, oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.’

19 Dywedais innau, ‘Arglwydd, y maent hwy'n gwybod i mi fod o synagog i synagog yn carcharu ac yn fflangellu'r rhai oedd yn credu ynot ti.

20 A phan oedd gwaed Steffan, dy dyst, yn cael ei dywallt, yr oeddwn innau hefyd yn sefyll yn ymyl, ac yn cydsynio, ac yn gwarchod dillad y rhai oedd yn ei ladd.’

21 A dywedodd wrthyf, ‘Dos, oherwydd yr wyf fi am dy anfon di ymhell at y Cenhedloedd.’ ”

Paul a'r Capten Rhufeinig

22 Yr oeddent wedi gwrando arno hyd at y gair hwn, ond yna dechreusant weiddi, “Ymaith ag ef oddi ar y ddaear! Y mae'n warth fod y fath ddyn yn cael byw.”

23 Fel yr oeddent yn gweiddi ac yn ysgwyd eu dillad ac yn taflu llwch i'r awyr,

24 gorchmynnodd y capten ei ddwyn ef i mewn i'r pencadlys, a'i holi trwy ei chwipio, er mwyn cael gwybod pam yr oeddent yn bloeddio felly yn ei erbyn.

25 Ond pan glymwyd ef i'w fflangellu, dywedodd Paul wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw, “A oes gennych hawl i fflangellu dinesydd Rhufeinig, a hynny heb farnu ei achos?”

26 Pan glywodd y canwriad hyn, aeth at y capten, a rhoi adroddiad iddo, gan ddweud, “Beth yr wyt ti am ei wneud? Y mae'r dyn yma yn ddinesydd Rhufeinig.”

27 Daeth y capten ato, ac meddai, “Dywed i mi, a wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?” “Ydwyf,” meddai yntau.

28 Atebodd y capten, “Mi delais i swm mawr i gael y ddinasyddiaeth hon.” Ond dywedodd Paul, “Cefais i fy ngeni iddi.”

29 Ar hyn, ciliodd y rhai oedd ar fin ei holi oddi wrtho. Daeth ofn ar y capten hefyd pan ddeallodd mai dinesydd Rhufeinig ydoedd, ac yntau wedi ei rwymo ef.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28