1 Wedi hynny fe ymadawodd ag Athen, a dod i Gorinth.
2 A daeth o hyd i Iddew o'r enw Acwila, brodor o Pontus, gŵr oedd newydd ddod o'r Eidal gyda'i wraig, Priscila, o achos gorchymyn Clawdius i'r holl Iddewon ymadael â Rhufain. Aeth atynt,
3 ac am ei fod o'r un grefft, arhosodd gyda hwy, a gweithio; gwneuthurwyr pebyll oeddent wrth eu crefft.
4 Byddai'n ymresymu yn y synagog bob Saboth, a cheisio argyhoeddi Iddewon a Groegiaid.
5 Pan ddaeth Silas a Timotheus i lawr o Facedonia, dechreuodd Paul ymroi yn llwyr i bregethu'r gair, gan dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.
6 Ond yr oeddent hwy'n dal i'w wrthwynebu a'i ddifenwi, ac felly fe ysgydwodd ei ddillad a dweud wrthynt, “Ar eich pen chwi y bo'ch gwaed! Nid oes bai arnaf fi; o hyn allan mi af at y Cenhedloedd.”
7 Symudodd oddi yno ac aeth i dŷ dyn o'r enw Titius Jwstus, un oedd yn addoli Duw; yr oedd ei dŷ y drws nesaf i'r synagog.
8 Credodd Crispus, arweinydd y synagog, yn yr Arglwydd, ynghyd â'i holl deulu. Ac wrth glywed, credodd llawer o'r Corinthiaid a chael eu bedyddio.
9 Dywedodd yr Arglwydd wrth Paul un noson, trwy weledigaeth, “Paid ag ofni, ond dal ati i lefaru, a phaid â thewi;
10 oherwydd yr wyf fi gyda thi, ac ni fydd i neb ymosod arnat ti i wneud niwed iti, oblegid y mae gennyf lawer o bobl yn y ddinas hon.”
11 Ac fe arhosodd flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu gair Duw yn eu plith.
12 Pan oedd Galio yn rhaglaw Achaia, cododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a dod ag ef gerbron y llys barn,
13 gan ddweud, “Y mae hwn yn annog pobl i addoli Duw yn groes i'r Gyfraith.”
14 Pan oedd Paul ar agor ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, “Pe bai yn fater o drosedd neu gamwedd ysgeler, byddwn wrth reswm yn rhoi gwrandawiad i chwi, Iddewon;
15 ond gan mai dadleuon yw'r rhain ynghylch geiriau ac enwau a'ch Cyfraith arbennig chwi, cymerwch y cyfrifoldeb eich hunain. Nid oes arnaf fi eisiau bod yn farnwr ar y pethau hyn.”
16 A gyrrodd hwy allan o'r llys.
17 Yna gafaelodd pawb yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro yng ngŵydd y llys. Ond nid oedd Galio yn poeni dim am hynny.
18 Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi ffarwelio â'r credinwyr fe hwyliodd ymaith i Syria, a Priscila ac Acwila gydag ef. Eilliodd ei ben yn Cenchreae, am fod adduned arno.
19 Pan gyraeddasant Effesus, gadawodd hwy yno, a mynd ei hun i mewn i'r synagog ac ymresymu â'r Iddewon.
20 A phan ofynasant iddo aros am amser hwy, ni chydsyniodd.
21 Ond wedi ffarwelio gan ddweud, “Dychwelaf atoch eto, os Duw a'i myn”, hwyliodd o Effesus.
22 Wedi glanio yng Nghesarea, aeth i fyny a chyfarch yr eglwys. Yna aeth i lawr i Antiochia,
23 ac wedi treulio peth amser yno, aeth ymaith, a theithio o le i le trwy wlad Galatia a Phrygia, gan gadarnhau'r holl ddisgyblion.
24 Daeth rhyw Iddew o'r enw Apolos i Effesus. Brodor o Alexandria ydoedd, a gŵr huawdl, cadarn yn yr Ysgrythurau.
25 Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd yr oedd yn llefaru ac yn dysgu yn fanwl y ffeithiau am Iesu, er mai am fedydd Ioan yn unig y gwyddai.
26 Dechreuodd hefyd lefaru'n hy yn y synagog, a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt, ac esbonio iddo Ffordd Duw yn fanylach.
27 A chan ei fod yn dymuno mynd drosodd i Achaia, cefnogodd y credinwyr ef, ac ysgrifennu at y disgyblion, ar iddynt ei groesawu. Ac wedi iddo gyrraedd, bu'n gynhorthwy mawr i'r rhai oedd trwy ras wedi credu,
28 oherwydd yr oedd yn mynd ati'n egnïol i wrthbrofi dadleuon yr Iddewon, gan ddangos ar goedd trwy'r Ysgrythurau mai Iesu oedd y Meseia.