Actau 11 BCN

Adroddiad Pedr i'r Eglwys yn Jerwsalem

1 Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod y Cenhedloedd hefyd wedi derbyn gair Duw.

2 Pan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, dechreuodd plaid yr enwaediad ddadlau ag ef,

3 a dweud, “Buost yn ymweld â dynion dienwaededig, ac yn cydfwyta gyda hwy.”

4 Dechreuodd Pedr adrodd yr hanes wrthynt yn ei drefn.

5 “Yr oeddwn i,” meddai, “yn nhref Jopa yn gweddïo, a gwelais mewn llesmair weledigaeth: yr oedd rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng o'r nef wrth bedair congl, a daeth hyd ataf.

6 Syllais i mewn iddi a cheisio amgyffred; gwelais anifeiliaid y ddaear a'r bwystfilod a'r ymlusgiaid ac adar yr awyr.

7 A chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Cod, Pedr, lladd a bwyta.’

8 Ond dywedais, ‘Na, na, Arglwydd; nid aeth dim halogedig neu aflan erioed i'm genau.’

9 Atebodd llais o'r nef eilwaith, ‘Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti â'i alw'n halogedig.’

10 Digwyddodd hyn deirgwaith, ac yna tynnwyd y cyfan i fyny yn ôl i'r nef.

11 Ac yn union dyma dri dyn yn dod ac yn sefyll wrth y tŷ lle'r oeddem, wedi eu hanfon ataf o Gesarea.

12 A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i dŷ'r dyn hwnnw.

13 Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dweud, ‘Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr;

14 fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.’

15 Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf.

16 Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, ‘Â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân.’

17 Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i allu rhwystro Duw?”

18 Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, “Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd.”

Yr Eglwys yn Antiochia

19 Yn awr yr oedd y rhai a wasgarwyd oherwydd yr erlid a gododd o achos Steffan wedi teithio cyn belled â Phoenicia a Cyprus ac Antiochia, heb lefaru'r gair wrth neb ond Iddewon yn unig.

20 Ond yr oedd rhai ohonynt yn bobl o Cyprus a Cyrene a dechreusant hwy, wedi iddynt ddod i Antiochia, lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan gyhoeddi'r newydd da am yr Arglwydd Iesu.

21 Yr oedd llaw'r Arglwydd gyda hwy, a mawr oedd y nifer a ddaeth i gredu a throi at yr Arglwydd.

22 Daeth yr hanes amdanynt i glustiau'r eglwys oedd yn Jerwsalem ac anfonasant Barnabas allan i fynd i Antiochia.

23 Wedi iddo gyrraedd, a gweld gras Duw, yr oedd yn llawen, a bu'n annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon;

24 achos yr oedd yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd. A chwanegwyd tyrfa niferus i'r Arglwydd.

25 Yna fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael daeth ag ef i Antiochia.

26 Am flwyddyn gyfan cawsant gydymgynnull gyda'r eglwys a dysgu tyrfa niferus; ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion yr enw Cristionogion gyntaf.

27 Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Jerwsalem i Antiochia,

28 a chododd un ohonynt, o'r enw Agabus, a rhoi arwydd trwy'r Ysbryd fod newyn mawr ar ddod dros yr holl fyd; ac felly y bu yn amser Clawdius.

29 Penderfynodd pob un o'r disgyblion gyfrannu, yn ôl fel y gallai fforddio, at gynhaliaeth eu cydgredinwyr oedd yn trigo yn Jwdea.

30 Gwnaethant hynny, ac anfon eu cyfraniad at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28