1 Tua'r amser hwnnw, fe gymerodd y Brenin Herod afael ar rai o'r eglwys i'w drygu.
2 Fe laddodd Iago, brawd Ioan, â'r cleddyf.
3 Pan welodd fod hyn yn gymeradwy gan yr Iddewon, aeth ymlaen i ddal Pedr hefyd. Yn ystod dyddiau gŵyl y Bara Croyw y bu hyn.
4 Wedi dal Pedr, fe'i rhoddodd yng ngharchar, a'i draddodi i bedwar pedwariad o filwyr i'w warchod, gan fwriadu dod ag ef allan gerbron y cyhoedd ar ôl y Pasg.
5 Felly yr oedd Pedr dan warchodaeth yn y carchar. Ond yr oedd yr eglwys yn gweddïo'n daer ar Dduw ar ei ran.
6 Pan oedd Herod ar fin ei ddwyn gerbron, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a gwylwyr o flaen y drws yn gwarchod y carchar.
7 A dyma angel yr Arglwydd yn sefyll yno, a goleuni'n disgleirio yn y gell. Trawodd yr angel Pedr ar ei ystlys, a'i ddeffro a dweud, “Cod ar unwaith.” A syrthiodd ei gadwynau oddi ar ei ddwylo.
8 Meddai'r angel wrtho, “Rho dy wregys a gwisg dy sandalau.” Ac felly y gwnaeth. Meddai wrtho wedyn, “Rho dy fantell amdanat, a chanlyn fi.”
9 Ac fe'i canlynodd oddi yno. Ni wyddai fod yr hyn oedd yn cael ei gyflawni drwy'r angel yn digwydd mewn gwirionedd, ond yr oedd yn tybio mai gweld gweledigaeth yr oedd.
10 Aethant heibio i'r wyliadwriaeth gyntaf a'r ail, a daethant at y porth haearn oedd yn arwain i'r ddinas; agorodd hwn iddynt ohono'i hun, ac aethant allan a mynd rhagddynt hyd un heol. Yna'n ebrwydd ymadawodd yr angel ag ef.
11 Wedi i Pedr ddod ato'i hun, fe ddywedodd, “Yn awr mi wn yn wir i'r Arglwydd anfon ei angel a'm gwared i o law Herod a rhag popeth yr oedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl.”
12 Wedi iddo sylweddoli hyn, aeth i dŷ Mair, mam Ioan a gyfenwid Marc, lle'r oedd cryn nifer wedi ymgasglu ac yn gweddïo.
13 Curodd wrth ddrws y cyntedd, a daeth morwyn o'r enw Rhoda i'w ateb.
14 Pan adnabu hi lais Pedr nid agorodd y drws gan lawenydd, ond rhedodd i mewn a mynegi bod Pedr yn sefyll wrth ddrws y cyntedd.
15 Dywedasant wrthi, “Rwyt ti'n wallgof.” Ond taerodd hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, “Ei angel ydyw.”
16 Yr oedd Pedr yn dal i guro, ac wedi iddynt agor a'i weld, fe'u syfrdanwyd.
17 Amneidiodd yntau arnynt â'i law i fod yn ddistaw, ac adroddodd wrthynt sut yr oedd yr Arglwydd wedi dod ag ef allan o'r carchar. Dywedodd hefyd, “Mynegwch hyn i Iago a'r brodyr.” Yna ymadawodd, ac aeth ymaith i le arall.
18 Wedi iddi ddyddio, yr oedd cynnwrf nid bychan ymhlith y milwyr: beth allai fod wedi digwydd i Pedr?
19 Wedi i Herod chwilio amdano a methu ei gael, holodd y gwylwyr a gorchmynnodd eu dienyddio. Yna aeth i lawr o Jwdea i Gesarea, ac aros yno.
20 Yr oedd Herod yn gynddeiriog yn erbyn pobl Tyrus a Sidon. Ond daethant hwy yn unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, siambrlen y brenin, o'u plaid, deisyfasant heddwch, am fod eu gwlad hwy yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin.
21 Ar ddiwrnod penodedig, â'i wisg frenhinol amdano, eisteddodd Herod ar ei orsedd a dechrau eu hannerch;
22 a bloeddiodd y bobl, “Llais Duw ydyw, nid llais dyn!”
23 Ar unwaith trawodd angel yr Arglwydd ef, am nad oedd wedi rhoi'r gogoniant i Dduw; ac fe'i hyswyd gan bryfed, a threngodd.
24 Yr oedd gair yr Arglwydd yn cynyddu ac yn mynd ar led.
25 Dychwelodd Barnabas a Saul o Jerwsalem wedi iddynt gyflawni eu gwaith, a chymryd gyda hwy Ioan, a gyfenwid Marc.