Actau 20 BCN

Taith Paul i Facedonia a Gwlad Groeg

1 Pan beidiodd y cynnwrf, anfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog, ffarweliodd â hwy ac aeth ymaith ar ei ffordd i Facedonia.

2 Wedi teithio trwy'r parthau hynny ac annog llawer ar y disgyblion yno, daeth i wlad Groeg.

3 Treuliodd dri mis yno, a phan oedd ar hwylio i Syria, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn yn ei erbyn, a phenderfynodd ddychwelyd trwy Facedonia.

4 Ei gyd-deithwyr oedd Sopater o Berea, mab Pyrrhus, y Thesaloniaid Aristarchus a Secwndus, Gaius o Derbe, a Timotheus, a'r Asiaid Tychicus a Troffimus.

5 Yr oedd y rhain wedi mynd o'n blaen, ac yn aros amdanom yn Troas.

6 Hwyliasom ninnau, wedi dyddiau'r Bara Croyw, o Philipi, a chyrraedd atynt yn Troas ymhen pum diwrnod; ac yno y buom am saith diwrnod.

Ymweliad Olaf Paul â Troas

7 Ar ddydd cyntaf yr wythnos, daethom ynghyd i dorri bara. Dechreuodd Paul, a oedd i fynd ymaith drannoeth, eu hannerch, a daliodd i draethu hyd hanner nos.

8 Yr oedd llawer o lampau yn yr oruwchystafell lle'r oeddem wedi ymgynnull,

9 ac yr oedd dyn ifanc o'r enw Eutychus yn eistedd wrth y ffenestr. Yr oedd hwn yn mynd yn fwy a mwy cysglyd, wrth i Paul ddal i ymhelaethu. Pan drechwyd ef yn llwyr gan gwsg, syrthiodd o'r trydydd llawr, a chodwyd ef yn gorff marw.

10 Ond aeth Paul i lawr; syrthiodd arno a'i gofleidio, a dywedodd, “Peidiwch â chynhyrfu; y mae bywyd ynddo.”

11 Yna aeth i fyny, a thorri'r bara a bwyta. Yna, wedi ymddiddan am amser hir hyd doriad dydd, aeth ymaith.

12 Ond aethant â'r llanc adref yn fyw, ac fe'u calonogwyd yn anghyffredin.

Y Fordaith o Troas i Miletus

13 Aethom ninnau o flaen Paul i'r llong, a hwylio i gyfeiriad Asos, gan fwriadu ei gymryd i'r llong yno; oblegid dyma'r cyfarwyddyd a roesai ef, gan fwriadu mynd ei hun dros y tir.

14 Pan gyfarfu â ni yn Asos, cymerasom ef i'r llong a mynd ymlaen i Mitylene.

15 Wedi hwylio oddi yno drannoeth, cyraeddasom gyferbyn â Chios, a'r ail ddiwrnod croesi i Samos, a'r dydd wedyn dod i Miletus.

16 Oherwydd yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Effesus, rhag iddo orfod colli amser yn Asia, gan ei fod yn brysio er mwyn bod yn Jerwsalem, pe bai modd, erbyn dydd y Pentecost.

Araith Paul i Henuriaid Effesus

17 Anfonodd o Miletus i Effesus a galw ato henuriaid yr eglwys.

18 Pan gyraeddasant ato, dywedodd wrthynt, “Fe wyddoch fel y bûm i gyda chwi yr holl amser, er y diwrnod cyntaf y rhois fy nhroed yn Asia,

19 yn gwasanaethu'r Arglwydd â phob gostyngeiddrwydd, ac â dagrau a threialon a ddaeth i'm rhan trwy gynllwynion yr Iddewon.

20 Gwyddoch nad ymateliais rhag cyhoeddi i chwi ddim o'r hyn sydd fuddiol, na rhag eich dysgu chwi yn gyhoeddus ac yn eich cartrefi,

21 gan dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid am edifeirwch tuag at Dduw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu.

22 Ac yn awr dyma fi, dan orfodaeth yr Ysbryd, ar fy ffordd i Jerwsalem, heb wybod beth a ddigwydd imi yno,

23 ond bod yr Ysbryd Glân o dref i dref yn tystiolaethu imi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros.

24 Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a'r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw.

25 “Ac yn awr, rwy'n gwybod na chewch weld fy wyneb mwyach, chwi oll y bûm i'n teithio yn eich plith gan gyhoeddi'r Deyrnas.

26 Gan hynny, yr wyf yn tystio i chwi y dydd hwn fy mod yn ddieuog o waed unrhyw un;

27 oblegid nid ymateliais rhag cyhoeddi holl arfaeth Duw i chwi.

28 Gofalwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn arolygwyr drosto, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a enillodd ef â gwaed ei briod un.

29 Mi wn i y daw i'ch plith, wedi fy ymadawiad i, fleiddiaid mileinig nad arbedant y praidd,

30 ac y cyfyd o'ch plith chwi eich hunain rai yn llefaru pethau llygredig, i ddenu'r disgyblion ymaith ar eu hôl.

31 Gan hynny, byddwch yn wyliadwrus, gan gofio na pheidiais i, na nos na dydd dros dair blynedd, â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau.

32 Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i Dduw ac i air ei ras, sydd â'r gallu ganddo i'ch adeiladu, ac i roi i chwi eich etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.

33 Ni chwenychais arian nac aur na gwisgoedd neb.

34 Fe wyddoch eich hunain mai'r dwylo hyn a fu'n gweini i'm hanghenion i ac eiddo'r rhai oedd gyda mi.

35 Ym mhopeth, dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae'n rhaid cynorthwyo'r rhai gwan, a dwyn ar gof y geiriau a lefarodd yr Arglwydd Iesu ei hun: ‘Dedwyddach yw rhoi na derbyn.’ ”

36 Wedi dweud hyn, fe benliniodd gyda hwy oll a gweddïo.

37 Torrodd pawb i wylo'n hidl, a syrthio ar wddf Paul a'i gusanu,

38 gan ofidio yn bennaf am iddo ddweud nad oeddent mwyach i weld ei wyneb. Yna aethant i'w hebrwng ef i'r llong.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28