Actau 7 BCN

Araith Steffan

1 Gofynnodd yr archoffeiriad: “Ai felly y mae?”

2 Meddai yntau: “Frodyr a thadau, clywch. Ymddangosodd Duw'r gogoniant i'n tad ni, Abraham, ac yntau yn Mesopotamia cyn iddo ymsefydlu yn Haran,

3 a dywedodd wrtho, ‘Dos allan o'th wlad ac oddi wrth dy berthnasau, a thyrd i'r wlad a ddangosaf iti.’

4 Yna fe aeth allan o wlad y Caldeaid, ac ymsefydlodd yn Haran. Oddi yno, wedi i'w dad farw, fe symudodd Duw ef i'r wlad hon, lle'r ydych chwi'n preswylio yn awr.

5 Eto ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo, dim lled troed. Addo a wnaeth ei rhoi iddo ef i'w meddiannu, ac i'w ddisgynyddion ar ei ôl, ac yntau heb blentyn.

6 Llefarodd Duw fel hyn: ‘Bydd ei ddisgynyddion yn alltudion mewn gwlad ddieithr, a chânt eu caethiwo a'u cam-drin am bedwar can mlynedd.

7 Ac fe ddof fi â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu,’ meddai Duw, ‘ac wedi hynny dônt allan, ac addolant fi yn y lle hwn.’

8 A rhoddodd iddo gyfamod enwaediad. Felly, wedi geni iddo Isaac, enwaedodd arno yr wythfed dydd. Ac i Isaac ganwyd Jacob, ac i Jacob y deuddeg patriarch.”

9 “Cenfigennodd y patriarchiaid wrth Joseff a'i werthu i'r Aifft. Ond yr oedd Duw gydag ef,

10 ac achubodd ef o'i holl gyfyngderau, a rhoddodd iddo ffafr a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft, a gosododd yntau ef yn llywodraethwr dros yr Aifft a thros ei holl dŷ.

11 Daeth newyn ar yr Aifft i gyd ac ar Ganaan; yr oedd yn gyfyngder mawr, ac ni allai ein hynafiaid gael lluniaeth.

12 Ond clywodd Jacob fod bwyd yn yr Aifft, ac anfonodd ein tadau yno y tro cyntaf.

13 Yr ail dro fe adnabuwyd Joseff gan ei frodyr, a daeth tylwyth Joseff yn hysbys i Pharo.

14 Anfonodd Joseff, a galw Jacob ei dad ato, a'i holl berthnasau, yn saith deg pump o bobl i gyd.

15 Ac aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Bu farw ef a'n tadau,

16 a symudwyd hwy yn ôl i Sichem, a'u claddu yn y bedd yr oedd Abraham wedi ei brynu am arian gan feibion Emor yn Sichem.

17 “Fel yr oedd yr amser yn agosáu i gyflawni'r addewid yr oedd Duw wedi ei rhoi i Abraham, cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft,

18 nes i frenin gwahanol godi ar yr Aifft, un na wyddai ddim am Joseff.

19 Bu hwn yn ddichellgar wrth ein cenedl ni, gan gam-drin ein hynafiaid, a pheri bwrw eu babanod allan fel na chedwid mohonynt yn fyw.

20 Y pryd hwnnw y ganwyd Moses, ac yr oedd yn blentyn cymeradwy yng ngolwg Duw. Magwyd ef am dri mis yn nhŷ ei dad,

21 a phan fwriwyd ef allan, cymerodd merch Pharo ef ati, a'i fagu yn fab iddi hi ei hun.

22 Hyfforddwyd Moses yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, ac yr oedd yn nerthol yn ei eiriau a'i weithredoedd.

23 “Yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, cododd awydd arno i ymweld â'i gyd-genedl, plant Israel.

24 Pan welodd un ohonynt yn cael cam, fe'i hamddiffynnodd, a dialodd gam y dyn oedd dan orthrwm trwy daro'r Eifftiwr.

25 Yr oedd yn tybio y byddai ei bobl ei hun yn deall fod Duw trwyddo ef yn rhoi gwaredigaeth iddynt. Ond nid oeddent yn deall.

26 Trannoeth daeth ar draws dau ohonynt yn ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddweud, ‘Ddynion, brodyr ydych; pam y gwnewch gam â'ch gilydd?’

27 Ond dyma'r un oedd yn gwneud cam â'i gymydog yn ei wthio i ffwrdd, gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni?

28 A wyt ti am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?’

29 A ffodd Moses ar y gair hwn, ac aeth yn alltud yn nhir Midian, lle y ganwyd iddo ddau fab.

30 “Ymhen deugain mlynedd, fe ymddangosodd iddo yn anialwch Mynydd Sinai angel mewn fflam dân mewn perth.

31 Pan welodd Moses ef, bu ryfedd ganddo'r olygfa. Wrth iddo nesu i edrych yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd:

32 ‘Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob.’ Cafodd Moses fraw, ac ni feiddiai edrych.

33 Yna dywedodd yr Arglwydd wrtho, ‘Datod dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r lle'r wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd.

34 Gwelais, do, gwelais sut y mae fy mhobl sydd yn yr Aifft yn cael eu cam-drin, a chlywais eu griddfan, a deuthum i lawr i'w gwaredu. Yn awr tyrd, imi gael dy anfon di i'r Aifft.’

35 Y Moses hwn, y gŵr a wrthodasant gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr?’—hwnnw a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr, trwy law'r angel a ymddangosodd iddo yn y berth.

36 Hwn a'u harweiniodd hwy allan, gan wneud rhyfeddodau ac arwyddion yng ngwlad yr Aifft ac yn y Môr Coch, ac am ddeugain mlynedd yn yr anialwch.

37 Hwn yw'r Moses a ddywedodd wrth blant Israel, ‘Bydd Duw yn codi i chwi o blith eich cyd-genedl broffwyd, fel y cododd fi.’

38 Hwn yw'r un a fu yn y gynulleidfa yn yr anialwch, gyda'r angel a lefarodd wrtho ar Fynydd Sinai a chyda'n hynafiaid ni. Derbyniodd ef oraclau byw i'w rhoi i chwi.

39 Eithr ni fynnodd ein hynafiaid ymddarostwng iddo, ond ei wthio o'r ffordd a wnaethant, a throi'n ôl yn eu calonnau at yr Aifft,

40 gan ddweud wrth Aaron, ‘Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen; oherwydd y Moses yma, a ddaeth â ni allan o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddigwyddodd iddo.’

41 Gwnaethant lo y pryd hwnnw, ac offrymu aberth i'r eilun, ac ymlawenhau yng nghynnyrch eu dwylo eu hunain.

42 A throes Duw ymaith, a'u rhoi i fyny i addoli sêr y nef, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi:“ ‘A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthauam ddeugain mlynedd yn yr anialwch, dŷ Israel?

43 Na yn wir, dyrchafasoch babell Moloch,a seren eich duw Raiffan,y delwau a wnaethoch i'w haddoli.Alltudiaf chwi y tu hwnt i Fabilon.’

44 “Yr oedd pabell y dystiolaeth gan ein hynafiaid yn yr anialwch, fel y gorchmynnodd yr hwn a lefarodd wrth Moses ei fod i'w llunio yn ôl y patrwm yr oedd wedi ei weld.

45 Ac wedi ei derbyn yn eu tro, daeth ein hynafiaid â hi yma gyda Josua, wrth iddynt oresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o'u blaenau. Ac felly y bu hyd ddyddiau Dafydd.

46 Cafodd ef ffafr gerbron Duw, a deisyfodd am gael tabernacl i dŷ Jacob.

47 Eithr Solomon oedd yr un a adeiladodd dŷ iddo.

48 Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith llaw; fel y mae'r proffwyd yn dweud:

49 “ ‘Y nefoedd yw fy ngorsedd,a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed.Pa fath dŷ a adeiladwch imi, medd yr Arglwydd;ble fydd fy ngorffwysfa?

50 Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?’

51 “Chwi rai gwargaled a dienwaededig o galon a chlust, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân; fel eich hynafiaid, felly chwithau.

52 P'run o'r proffwydi na fu'ch hynafiaid yn ei erlid? Ie, lladdasant y rhai a ragfynegodd ddyfodiad yr Un Cyfiawn. A chwithau yn awr, bradwyr a llofruddion fuoch iddo ef,

53 chwi y rhai a dderbyniodd y Gyfraith yn ôl cyfarwyddyd angylion, ac eto ni chadwasoch mohoni.”

Llabyddio Steffan

54 Wrth glywed y pethau hyn aethant yn ffyrnig yn eu calonnau, ac ysgyrnygu eu dannedd arno.

55 Yn llawn o'r Ysbryd Glân, syllodd Steffan tua'r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu'n sefyll ar ddeheulaw Duw,

56 a dywedodd, “Edrychwch, rwy'n gweld y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.”

57 Rhoesant hwythau waedd uchel, a chau eu clustiau, a rhuthro'n unfryd arno,

58 a'i fwrw allan o'r ddinas, a mynd ati i'w labyddio. Dododd y tystion eu dillad wrth draed dyn ifanc o'r enw Saul.

59 Ac wrth iddynt ei labyddio, yr oedd Steffan yn galw, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28