18 Galwasant a gofyn, “A yw Simon, a gyfenwir Pedr, yn lletya yma?”
19 Tra oedd Pedr yn synfyfyrio ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd, “Y mae yma dri dyn yn chwilio amdanat.
20 Cod, dos i lawr, a dos gyda hwy heb amau dim, oherwydd myfi sydd wedi eu hanfon.”
21 Aeth Pedr i lawr at y dynion, ac meddai, “Dyma fi, y dyn yr ydych yn chwilio amdano. Pam y daethoch yma?”
22 Meddent hwythau, “Y canwriad Cornelius, gŵr cyfiawn sy'n ofni Duw ac sydd â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i anfon amdanat i'w dŷ, ac i glywed y pethau sydd gennyt i'w dweud.”
23 Felly gwahoddodd hwy i mewn a rhoi llety iddynt.Trannoeth, cododd ac aeth ymaith gyda hwy, ac aeth rhai o'r credinwyr oedd yn Jopa gydag ef.
24 A thrannoeth, cyrhaeddodd Gesarea. Yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, ac wedi galw ynghyd ei berthnasau a'i gyfeillion agos.