24 A thrannoeth, cyrhaeddodd Gesarea. Yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, ac wedi galw ynghyd ei berthnasau a'i gyfeillion agos.
25 Wedi i Pedr ddod i mewn, aeth Cornelius i'w gyfarfod, a syrthiodd wrth ei draed a'i addoli.
26 Ond cododd Pedr ef ar ei draed, gan ddweud, “Cod; dyn wyf finnau hefyd.”
27 A than ymddiddan ag ef aeth i mewn, a chael llawer wedi ymgynnull,
28 ac meddai wrthynt, “Fe wyddoch chwi ei bod yn anghyfreithlon i Iddew gadw cwmni gydag estron neu ymweld ag ef; eto dangosodd Duw i mi na ddylwn alw neb yn halogedig neu'n aflan.
29 Dyna pam y deuthum, heb wrthwynebu o gwbl, pan anfonwyd amdanaf. Rwy'n gofyn, felly, pam yr anfonasoch amdanaf.”
30 Ac ebe Cornelius, “Pedwar diwrnod i'r awr hon, yr oeddwn ar weddi am dri o'r gloch y prynhawn yn fy nhŷ, a dyma ŵr yn sefyll o'm blaen mewn gwisg ddisglair,