31 ac meddai, ‘Cornelius, y mae Duw wedi clywed dy weddi di ac wedi cofio am dy elusennau.
32 Anfon, felly, i Jopa a gwahodd atat Simon, a gyfenwir Pedr; y mae hwn yn lletya yn nhŷ Simon y barcer, wrth y môr.’
33 Felly anfonais atat ar unwaith, a gwelaist tithau yn dda ddod. Yn awr, ynteu, yr ydym ni bawb yma gerbron Duw i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd.”
34 A dechreuodd Pedr lefaru: “Ar fy ngwir,” meddai, “rwy'n deall nad yw Duw yn dangos ffafriaeth,
35 ond bod y sawl ym mhob cenedl sy'n ei ofni ac yn gweithredu cyfiawnder yn dderbyniol ganddo ef.
36 Y gair hwn a anfonodd i blant Israel, gan gyhoeddi Efengyl tangnefedd drwy Iesu Grist; ef yw Arglwydd pawb.
37 Gwyddoch chwi'r peth a fu drwy holl Jwdea, gan ddechrau yng Ngalilea wedi'r bedydd a gyhoeddodd Ioan—Iesu o Nasareth,