37 Gwyddoch chwi'r peth a fu drwy holl Jwdea, gan ddechrau yng Ngalilea wedi'r bedydd a gyhoeddodd Ioan—Iesu o Nasareth,
38 y modd yr eneiniodd Duw ef â'r Ysbryd Glân ac â nerth. Aeth ef oddi amgylch gan wneud daioni ac iacháu pawb oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef.
39 Ac yr ydym ni'n dystion o'r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon ac yn Jerwsalem. A lladdasant ef, gan ei grogi ar bren.
40 Ond cyfododd Duw ef ar y trydydd dydd, a pheri iddo ddod yn weledig,
41 nid i'r holl bobl, ond i dystion oedd wedi eu rhagethol gan Dduw, sef i ni, y rhai a fu'n cydfwyta ac yn cydyfed gydag ef wedi iddo atgyfodi oddi wrth y meirw.
42 Gorchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai hwn yw'r un a benodwyd gan Dduw yn farnwr y byw a'r meirw.
43 I hwn y mae'r holl broffwydi'n tystio, y bydd pawb sy'n credu ynddo ef yn derbyn maddeuant pechodau trwy ei enw.”