45 Synnodd y credinwyr Iddewig, cynifer ag oedd wedi dod gyda Pedr, am fod rhodd yr Ysbryd Glân wedi ei thywallt hyd yn oed ar y Cenhedloedd;
46 oherwydd yr oeddent yn eu clywed yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna dywedodd Pedr,
47 “A all unrhyw un wrthod y dŵr i fedyddio'r rhain, a hwythau wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel ninnau?”
48 A gorchmynnodd eu bedyddio hwy yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros am rai dyddiau.