17 Duw'r bobl hyn, Israel, a ddewisodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl pan oeddent yn estroniaid yng ngwlad yr Aifft, ac â braich estynedig fe ddaeth â hwy allan oddi yno.
18 Am ryw ddeugain mlynedd bu'n cydymddwyn â hwy yn yr anialwch.
19 Yna dinistriodd saith genedl yng ngwlad Canaan, a rhoi eu tir hwy yn etifeddiaeth iddynt
20 am ryw bedwar can mlynedd a hanner. Ac wedi hynny rhoddodd iddynt farnwyr hyd at y proffwyd Samuel.
21 Ar ôl hyn gofynasant am gael brenin, a rhoddodd Duw iddynt Saul fab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, am ddeugain mlynedd.
22 Yna fe'i diorseddodd ef, a chodi Dafydd yn frenin iddynt, a thystiolaethu iddo gan ddweud, ‘Cefais Ddafydd fab Jesse yn ŵr wrth fodd fy nghalon, un a wna bob peth yr wyf yn ei ewyllysio.’
23 O blith disgynyddion hwn y daeth Duw, yn ôl ei addewid, â Gwaredwr i Israel, sef Iesu.