24 Yr oedd Ioan eisoes, cyn iddo ef ddod, wedi cyhoeddi bedydd edifeirwch i holl bobl Israel.
25 Ac wrth ei fod yn cwblhau ei yrfa, dywedodd Ioan, ‘Beth yr ydych chwi'n tybio fy mod? Nid hynny wyf fi. Na, dyma un yn dod ar f'ôl i nad wyf fi'n deilwng i ddatod y sandalau am ei draed.’
26 “Frodyr, disgynyddion Abraham a'r rhai yn eich plith sy'n ofni Duw, i ni yr anfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.
27 Oherwydd nid adnabu trigolion Jerwsalem a'u llywodraethwyr mo hwn; ni ddeallasant chwaith eiriau'r proffwydi a ddarllenir bob Saboth, ond eu cyflawni trwy ei gondemnio ef.
28 Er na chawsant ddim rheswm dros ei roi i farwolaeth, ceisiasant gan Pilat ei ladd;
29 ac wedi iddynt ddwyn i ben bopeth oedd wedi ei ysgrifennu amdano, tynasant ef i lawr oddi ar y pren a'i roi mewn bedd.
30 Ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw;