25 Ac wrth ei fod yn cwblhau ei yrfa, dywedodd Ioan, ‘Beth yr ydych chwi'n tybio fy mod? Nid hynny wyf fi. Na, dyma un yn dod ar f'ôl i nad wyf fi'n deilwng i ddatod y sandalau am ei draed.’
26 “Frodyr, disgynyddion Abraham a'r rhai yn eich plith sy'n ofni Duw, i ni yr anfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.
27 Oherwydd nid adnabu trigolion Jerwsalem a'u llywodraethwyr mo hwn; ni ddeallasant chwaith eiriau'r proffwydi a ddarllenir bob Saboth, ond eu cyflawni trwy ei gondemnio ef.
28 Er na chawsant ddim rheswm dros ei roi i farwolaeth, ceisiasant gan Pilat ei ladd;
29 ac wedi iddynt ddwyn i ben bopeth oedd wedi ei ysgrifennu amdano, tynasant ef i lawr oddi ar y pren a'i roi mewn bedd.
30 Ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw;
31 ac fe ymddangosodd dros ddyddiau lawer i'r rhai oedd wedi dod i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, ac y mae'r rhain yn awr yn dystion iddo i'r bobl.