42 Wrth iddynt fynd allan, yr oedd y bobl yn deisyf arnynt i lefaru'r pethau hyn wrthynt y Saboth wedyn.
43 Wedi i'r gynulleidfa gael ei gollwng, aeth llawer o'r Iddewon, ac o'r proselytiaid oedd yn addolwyr Duw, ar ôl Paul a Barnabas, a buont hwythau yn llefaru wrthynt ac yn eu hannog i lynu wrth ras Duw.
44 Y Saboth dilynol, daeth bron yr holl ddinas ynghyd i glywed gair yr Arglwydd.
45 Pan welodd yr Iddewon y tyrfaoedd fe'u llanwyd â chenfigen, ac yr oeddent yn gwrth-ddweud y pethau yr oedd Paul yn eu llefaru, gan ei ddifenwi.
46 Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy: “I chwi,” meddent, “yr oedd yn rhaid llefaru gair Duw yn gyntaf. Ond gan eich bod yn ei wrthod, ac yn eich dyfarnu eich hunain yn annheilwng o'r bywyd tragwyddol, dyma ni'n troi at y Cenhedloedd.
47 Oblegid hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni:“ ‘Gosodais di yn oleuni'r Cenhedloedd,iti fod yn gyfrwng iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.’ ”
48 Wrth glywed hyn, yr oedd y Cenhedloedd yn llawenychu ac yn gogoneddu gair yr Arglwydd, a chredodd cynifer ag oedd wedi eu penodi i fywyd tragwyddol.