48 Wrth glywed hyn, yr oedd y Cenhedloedd yn llawenychu ac yn gogoneddu gair yr Arglwydd, a chredodd cynifer ag oedd wedi eu penodi i fywyd tragwyddol.
49 Yr oedd gair yr Arglwydd yn ymdaenu drwy'r holl fro.
50 Ond fe gyffrôdd yr Iddewon y gwragedd bonheddig oedd yn addolwyr Duw, a phrif wŷr y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a'u bwrw allan o'u hardal.
51 Ysgydwasant hwythau'r llwch oddi ar eu traed yn eu herbyn, a daethant i Iconium.
52 A llanwyd y disgyblion â llawenydd ac â'r Ysbryd Glân.