22 a chadarnhau eneidiau'r disgyblion a'u hannog i lynu wrth y ffydd, gan ddweud, “Trwy lawer o gyfyngderau yr ydym i fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
23 Penodasant iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a'u cyflwyno, ar ôl gweddïo ac ymprydio, i'r Arglwydd yr oeddent wedi credu ynddo.
24 Wedi iddynt deithio trwy Pisidia, daethant i Pamffylia;
25 ac wedi llefaru'r gair yn Perga, aethant i lawr i Atalia,
26 ac oddi yno hwyliasant i Antiochia, i'r fan lle'r oeddent wedi eu cyflwyno i ras Duw at y gwaith yr oeddent wedi ei gyflawni.
27 Wedi iddynt gyrraedd, cynullasant yr eglwys ynghyd ac adrodd gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud gyda hwy, ac fel yr oedd wedi agor drws ffydd i'r Cenhedloedd.
28 A threuliasant gryn dipyn o amser gyda'r disgyblion.