5 Pan wnaed cynnig gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd â'u harweinwyr, i'w cam-drin a'u llabyddio,
6 wedi cael achlust o'r peth, ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd Lycaonia, ac i'r wlad o amgylch,
7 ac yno yr oeddent yn cyhoeddi'r newydd da.
8 Ac yn Lystra yr oedd yn eistedd ryw ddyn â'i draed yn ddiffrwyth, un cloff o'i enedigaeth, nad oedd erioed wedi cerdded.
9 Yr oedd hwn yn gwrando ar Paul yn llefaru. Syllodd yntau arno, a gwelodd fod ganddo ffydd i gael ei iacháu,
10 a dywedodd â llais uchel, “Saf yn unionsyth ar dy draed.” Neidiodd yntau i fyny a dechrau cerdded.
11 Pan welodd y tyrfaoedd yr hyn yr oedd Paul wedi ei wneud, gwaeddasant yn iaith Lycaonia: “Y duwiau a ddaeth i lawr atom ar lun dynion”;