12 Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.
13 Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, “Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi.
14 Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw.
15 Ac y mae geiriau'r proffwydi yn cytuno â hyn, fel y mae'n ysgrifenedig:
16 “ ‘Ar ôl hyn dychwelaf,ac ailadeiladaf babell syrthiedig Dafydd,ailadeiladaf ei hadfeilion,a'i hatgyweirio,
17 fel y ceisier yr Arglwydd gan y bobl sy'n weddill,a chan yr holl Genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,’medd yr Arglwydd, sy'n gwneud y pethau hyn
18 yn hysbys erioed.”