28 Penderfynwyd gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau beidio â gosod arnoch ddim mwy o faich na'r pethau angenrheidiol hyn:
29 ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu'r hyn sydd wedi ei dagu, a rhag anfoesoldeb rhywiol. Os cadwch rhag y pethau hyn, fe wnewch yn dda. Ffarwel.”
30 Felly anfonwyd hwy, a daethant i lawr i Antiochia, ac wedi galw'r gynulleidfa ynghyd, cyflwynwyd y llythyr.
31 Wedi ei ddarllen, yr oeddent yn llawen ar gyfrif yr anogaeth yr oedd yn ei rhoi.
32 Gan fod Jwdas a Silas hwythau'n broffwydi, dywedasant lawer i annog y credinwyr a'u cadarnhau.
33 Wedi iddynt dreulio peth amser yno fe'u gollyngwyd mewn tangnefedd gan y credinwyr, i ddychwelyd at y rhai a'u hanfonodd.
35 Arhosodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu gair yr Arglwydd, ynghyd â llawer eraill.