2 Ac yn ôl ei arfer aeth Paul i mewn atynt, ac am dri Saboth bu'n ymresymu â hwy ar sail yr Ysgrythurau,
3 gan esbonio a phrofi fod yn rhaid i'r Meseia ddioddef a chyfodi oddi wrth y meirw. Byddai'n dweud, “Hwn yw'r Meseia—Iesu, yr hwn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi.”
4 Cafodd rhai ohonynt eu hargyhoeddi, ac ymuno â Paul a Silas; ac felly hefyd y gwnaeth lliaws mawr o'r Groegiaid oedd yn addoli Duw, ac nid ychydig o'r gwragedd blaenaf.
5 Ond cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dihirod o blith segurwyr y sgwâr, a'u casglu'n dorf, dechreusant greu terfysg yn y ddinas. Ymosodasant ar dŷ Jason, a cheisio dod â Paul a Silas allan gerbron y dinasyddion.
6 Ond wedi methu dod o hyd iddynt hwy, llusgasant Jason a rhai credinwyr o flaen llywodraethwyr y ddinas, gan weiddi, “Y mae aflonyddwyr yr Ymerodraeth wedi dod yma hefyd,
7 ac y mae Jason wedi rhoi croeso iddynt; y mae'r bobl hyn i gyd yn troseddu yn erbyn ordeiniadau Cesar trwy ddweud fod brenin arall, sef Iesu.”
8 Cyffrowyd y dyrfa a'r llywodraethwyr pan glywsant hyn,