26 Gwnaeth ef hefyd o un dyn yr holl genhedloedd, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan osod cyfnodau penodedig a therfynau eu preswylfod.
27 Yr oeddent i geisio Duw, yn y gobaith y gallent rywfodd ymbalfalu amdano a'i ddarganfod; ac eto nid yw ef nepell oddi wrth yr un ohonom.
28 “ ‘Oherwydd ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod’,“fel, yn wir, y dywedodd rhai o'ch beirdd chwi:“ ‘Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.’
29 “Os ydym ni, felly, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybio fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn.
30 Yn wir, edrychodd Duw heibio i amserau anwybodaeth; ond yn awr y mae'n gorchymyn i bawb ym mhob man edifarhau,
31 oblegid gosododd ddiwrnod pryd y bydd yn barnu'r byd mewn cyfiawnder, trwy ŵr a benododd, ac fe roes sicrwydd o hyn i bawb trwy ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw.”
32 Pan glywsant am atgyfodiad y meirw, dechreuodd rhai wawdio, ond dywedodd eraill, “Cawn dy wrando ar y pwnc hwn rywdro eto.”