1 Tra oedd Apolos yng Nghorinth, teithiodd Paul drwy'r parthau uchaf, a daeth i Effesus. Yno daeth o hyd i rai disgyblion,
2 a gofynnodd iddynt, “A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân pan gredasoch?” Meddent hwythau wrtho, “Naddo; ni chlywsom hyd yn oed fod yna Ysbryd Glân.”
3 Dywedodd yntau, “Â pha fedydd, ynteu, y bedyddiwyd chwi?” Atebasant hwythau, “Â bedydd Ioan.”
4 Ac meddai Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, ac fe ddywedodd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dod ar ei ôl ef, hynny yw, yn Iesu.”
5 Pan glywsant hyn, fe'u bedyddiwyd hwy i enw'r Arglwydd Iesu,
6 a phan roddodd Paul ei ddwylo arnynt daeth yr Ysbryd Glân arnynt, a dechreusant lefaru â thafodau a phroffwydo.
7 Yr oedd tua deuddeg ohonynt i gyd.