15 Ond atebodd yr ysbryd drwg hwy, “Iesu, yr wyf yn ei adnabod ef; a Paul, gwn amdano yntau; ond chwi, pwy ydych?”
16 Dyma'r dyn ac ynddo'r ysbryd drwg yn llamu arnynt, ac yn eu trechu i gyd, a'u maeddu nes iddynt ffoi o'r tŷ yn noeth a chlwyfedig.
17 Daeth hyn yn hysbys i'r holl Iddewon a Groegiaid oedd yn byw yn Effesus, a dychrynodd pawb; a chafodd enw'r Arglwydd Iesu ei fawrygu.
18 Daeth llawer o'r rhai oedd bellach yn gredinwyr, a chyffesu eu dewiniaeth ar goedd.
19 Casglodd llawer o'r rhai a fu'n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a'u llosgi yng ngŵydd pawb; cyfrifwyd gwerth y rhain, a'i gael yn hanner can mil o ddarnau arian.
20 Felly, yn ôl nerth yr Arglwydd, yr oedd y gair yn cynyddu ac yn llwyddo.
21 Wedi i'r pethau hyn gael eu cwblhau, rhoddodd Paul ei fryd ar deithio trwy Facedonia ac Achaia, ac yna mynd i Jerwsalem. “Wedi imi fod yno,” meddai, “rhaid imi weld Rhufain hefyd.”