27 Yn awr, y mae perygl nid yn unig y daw anfri ar ein crefft, ond hefyd y cyfrifir teml y dduwies fawr Artemis yn ddiddim, a hyd yn oed y bydd hi, y dduwies y mae Asia gyfan a'r byd yn ei haddoli, yn cael ei hamddifadu o'i mawrhydi.”
28 Pan glywsant hyn, llanwyd hwy â dicter, a dechreusant weiddi, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”
29 Llanwyd y ddinas â'u cynnwrf, a rhuthrasant yn unfryd i'r theatr, gan lusgo gyda hwy gyd-deithwyr Paul, y Macedoniaid Gaius ac Aristarchus.
30 Yr oedd Paul yn dymuno cael mynd gerbron y dinasyddion, ond ni adawai'r disgyblion iddo;
31 a hefyd anfonodd rhai o uchel-swyddogion Asia, a oedd yn gyfeillgar ag ef, neges ato i erfyn arno i beidio â mentro i'r theatr.
32 Yn y cyfamser, yr oedd rhai yn gweiddi un peth ac eraill beth arall, oherwydd yr oedd y cyfarfod mewn cynnwrf, ac ni wyddai'r rhan fwyaf i beth yr oeddent wedi dod ynghyd.
33 Ond tybiodd rhai o'r dyrfa mai Alexander oedd yr achos, gan i'r Iddewon ei wthio ef i'r blaen. Gwnaeth yntau arwydd â'i law, gan ddymuno ei amddiffyn ei hun gerbron y dinasyddion.